Yr Athroniaeth
Mae rhoi’r person wrth galon popeth yn ganolog i’n hathroniaeth. Mae ein dull yn hyblyg, gan sicrhau bod ein cymorth a’n cyngor yn cael ei deilwrio o gwmpas beth sy’n bwysig i chi.
Rydyn ni wedi creu ein gwasanaethau i sicrhau y gallwn gynnig ymyriadau 'ffordd o fyw’ a chymdeithasol yn lle tabledi ac ‘ymyriadau meddygol’, os mai hynny sydd orau i chi.
Mae bod yn hygyrch yn bwysig i ni felly rydyn ni’n fodlon iawn defnyddio Skype ac e-bost gyda chi, lle mae’n glinigol ddiogel gwneud hynny. Dyna pam hefyd ein bod wedi cyflwyno ein E-Consult
Credwn fod pob adborth yn werthfawr. Dyna pam y byddwn yn gofyn am eich adborth wrth gysylltu â chi, a pham ein bod yn croesawu sylwadau eraill ar unrhyw adeg.
Pam Timau Allweddol
Bydd eich gofal yn cael ei reoli gan un o’n ‘Timau Allweddol’ arloesol. Mae bob tîm yn cynnwys amrywiaeth o staff proffesiynol a medrus, nid Meddygon Teulu’n unig.
Drwy wneud hyn gallwn gynnig hyblygrwydd i chi a mynediad at amrywiaeth o weithwyr proffesiynol i ateb eich angen. Mae’n sicrhau bod gan Feddygon Teulu amser i ganolbwyntio ar bobl gydag anghenion meddygol cymhleth iawn, ond eto’n gallu cefnogi gweddill eu Tîm i ddarparu'r gofal gorau i'w cleifion i gyd.
Mae pob gweithiwr proffesiynol yn gallu cyfrannu gwahanol alluoedd a gwybodaeth, gan greu Tîm Allweddol gydag amrediad ehangach o sgiliau na Meddyg yn unig.
Y Gwasanaeth Nyrsys Practis
Mae’r tîm nyrsys practis a staff gofal iechyd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau nyrsio traddodiadol o bob safle.
Gall ein gweithiwr gofal iechyd, sy’n fedrus iawn, wneud profion gwaed, profion calon, profion ysgyfaint a monitro pwysedd gwaed.
Mae’r gwasanaeth nyrsys practis yn cynnwys brechiadau, cyngor ar drafeilio ac imiwneiddio, gofalu am friwiau, cyngor ar atal-genhedlu, profion ceg y groth, gofal pesari, a rhywfaint o fonitro clefydau cronig.
E-Consult Service
Cofrestru gyda ni
Os ydych yn byw yn ein dalgylch, mae croeso i chi gofrestru gyda ni.
Dylech gysylltu gyda ni a byddwn yn gwneud y trefniadau angenrheidiol.
Sut ydw i’n gwybod pwy i’w weld?
Mae’r trefniadau hyn yn golygu y gallwch gael eich gweld gan y person mwyaf addas i’ch anghenion gofal, fel bod Meddygon Teulu’n gallu rhoi amser i’r cleifion sydd angen gweld meddyg.

Y Meddyg
Gall y Meddygon Teulu eich helpu gyda phroblemau meddygol cymhleth, lle mae angen sgiliau arbenigol Meddyg.
Maent hefyd yn gweithio gyda gweddill y tîm i gynorthwyo gyda'r gofal a roddir gan eraill yn y tîm.

Yr Ymarferydd Nyrsio
Mae Ymarferwyr Nyrsio’n gofalu am amrywiaeth eang o broblemau gofal sylfaenol y byddai Meddyg fel arfer wedi gofalu amdanynt.
Maent wedi hyfforddi am flynyddoedd ac yn abl iawn.

Y Fferyllydd
Gall y Fferyllydd yn eich tîm eich helpu gydag unrhyw broblemau meddyginiaeth, neu os ydych eisiau symleiddio eich meddyginiaeth.
Medrant hefyd helpu i fonitro eich triniaeth rhwng gweld eich meddyg neu nyrs.

Y Therapydd Galwedigaethol
Gall eich ThG weithio gyda chi i’ch helpu i ofalu am eich iechyd, i aros mor egnïol â phosib ac i gario ymlaen â’ch bywyd bob dydd.
Maent yn dda iawn am ddod o hyd i atebion syml i wella eich lles.

Y Cydlynydd Tîm
Gall eich helpu i ddod o hyd i’r clinigydd gorau ar gyfer eich problem, os nad ydych yn siŵr. Mae’n cydlynu’r tîm i’ch cefnogi yn y ffordd orau.
Gallwch gysylltu â’ch cydlynydd dros y ffôn neu’r e-bost a bydd yn hapus iawn i drosglwyddo eich negeseuon i’r clinigwyr yn eich Tîm.